Penrhos Arms
CROESO  |  LLETY  |  BWYD  |  CYFARFODYDD A DIGWYDDIADAU  |  PETHAU I WNEUD  |  CYSYLLTWCH Â NI  |  ENGLISH
 
 

Archebwch fwrdd gyda ni dros y Nadolig.
Cysylltwch â ni ar 01650 511 243 i gadw lle.

Cymerwch olwg ar y fwydlen Nadolig yma...


  Croeso i
Westy’r Penrhos

ger Machynlleth,
Canolbarth Cymru
  Canolbarth Cymru,
Bae Ceredigion
Lle gwych i fwynhau

arfordir a chefn gwlad Cymru
  Cysylltwch â ni ...
Codwch y ffon
 
 
 
 

Dewch i fwynhau mwynder Maldwyn ar ei orau wrth dreulio ychydig ddyddiau ymlaciol neu arhosiad dros nos yng Ngwesty'r Penrhos, Cemaes ger Machynlleth. Saif y Penrhos yng nghanol y pentref ar ymyl yr A470, sef y brif ffordd o'r de i'r gogledd. Bydd croeso Cymreig yn eich disgwyl.

Mae Gwesty'r Penrhos yn cynnig pump ystafell wely en-suite sy'n addas ar gyfer unigolion ar fusnes neu deuluoedd sy'n dymuno rhannu ystafell. Darperir teledu a hambwrdd croeso ym mhob ystafell.

 

Dyma'r lleoliad delfrydol os ydych am fwynhau golygfeydd godidog yr ardal. Gallwch grwydro mynyddoedd, dyffrynnoedd a llynnoedd y canolbarth neu dreulio diwrnod hamddenol ar un o draethau Bae Ceredigion.

Ceir nifer o lwybrau cerdded a beicio mynydd o fewn cyrraedd hwylus gyda Llwybr Glyndwr gerllaw.

Wyth milltir i'r gorllewin mae Machynlleth, prifddinas hynafol Cymru a lleoliad senedd Owain Glyndwr. Yma gallwch ymweld a'r senedd-dy neu fwynhau celf amrywiol a chyffrous yr Amgueddfa Gelf Fodern.

Mae nifer o fwytai a siopau bach unigryw i'ch difyrru yn y dre ac ar ddydd Mercher gallwch brofi bwrlwm y farchnad stryd brysur.

 
Llety
Gwesty'r Penrhos


Delfrydol ar gyfer un noson neu seibiant am ychydig ddyddiau. Addas ar gyfer teuluoedd
neu bobl busnes.

Mwy o wybodaeth...

Archebion
Sicrhewch bod ystafell ar gael
ac yna'i harchebu.

Mwy o wybodaeth...

Prisiau
Ystafelloedd o £75 y noson
Mwy o wybodaeth...

Ychwanegwch ni
ar Facebook

penrhosarms

 


Cysylltwch â Ni

Penrhos Arms
Ff: 01650 511243
e:
facebook.com/penrhosarms



Penrhos Arms

* Croeso
* Llety
* Bwyd
* Cyfarfodydd & Digwyddiadau
* Pethau i Wneud
* Cysylltwch â Ni
* English







Guns On Pegs Good Shoot Hotel Guide - Highly Recommended
Good Shoot Hotel Guide
Highly Recommended